Welcome to Carmarthen Artists' Network (CAN) catalogue

Who are we?
Carmarthen Artists' Network was set up by Sian Swann in 2011 to offer encouragement to art graduates who want to develop and maintain their artistic practice within a supportive group. CAN is run solely by its members and aims to provide an artistic platform for developing artists living in rural West Wales. Currently CAN has 15 members, who have a large multi-disciplinary skills base.

What does CAN do?
Carmarthen Artists' Network creates opportunities for developing artists to come together to extend and share skills. Information about exhibitions, opportunities and competitions is disseminated to members via email and a closed group on Facebook.

We meet fortnightly on Monday afternoons at Oriel Myrddin, Carmarthen or, occasionally, offsite. Members exchange research, offer work critiques, technical advice and support. The group members also organise practical workshops to help keep creative ideas fresh and to develop expertise.

CAN organises annual group exhibitions and the contacts made within the network can create opportunities for individuals to develop their own shows.

CAN and National Botanic Garden of Wales
In 2016 Carmarthen Artists' Network was approached by the National Botanic Garden of Wales to begin creatively collaborating with the Regency Restoration team's exciting major project to restore the 18th century landscape and water park created for Sir William Paxton.

17 CAN members from different disciplines were invited to create work that reflects aspects of both the historical and modern development of the Regency landscape for a Garden-wide exhibition in July -September 2018

Officers
Sian Swann CAN co-ordinator, Viv Albiston Exhibitions co-ordinator, David Brown Treasurer.

Carmarthen Artists' Network received an Arts Council of Wales marketing grant in 2013 which contributed to the creation of this on-line catalogue.

Croeso i gatalog Rhwydwaith Artistiaid Sir Gâr (CAN)

Pwy ydym ni?
Crewyd Rhwydwaith Artistiaid Sir Gâr gan Siân Swann yn 2011 er mwyn calonogi graddedigion celf a fynnai ddatblygu a dal ati â'u hymarfer celf nhw o fewn grŵp cefnogol. Trefnir CAN gan ei aelodau yn unig i'r perwyl o ddarparu llwyfan gelfyddydol ar gyfer artistiaid datblygol sy'n byw yng Ngorllewin Cymru. Ar hyn o bryd 15 aelod sy gyda CAN, yn meddu ar sylfaen eang o fedrau aml-ddisgyblaeth.

Beth bydd CAN yn ei wneud?
Bydd Rhwydwaith Artistiaid Sir Gâr yn creu cyfleoedd i artistiaid datblygol gael cydgysylltu er mwyn estyn a rhannu medrau. Fe fydd gwybodaeth am arddangosfeydd, cyfleoedd a chystadlaethau yn cael ei dosbarthu i'r aelodau trwy ebost a thrwy gyfrwng grŵp caeedig ar Facebook.

Byddwn ni'n cwrdd bob pythewnos ar brynhawnau Llun yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin, neu o dro i'w gilydd yn rhywle arall. Bydd aelodau yn cyfnewid ymchwil, yn cynnig beirniadaeth gwaith, cyngor technegol a chefnogaeth. Bydd aelodau'r grŵp hefyd yn trefnu gweithdai ymarferol i helpu cadw syniadau creadigol yn irlas ac i gynyddu meistrolaeth.

Fe drefna CAN arddangosfeydd grŵp blynyddol, a bydd y cysylltiadau a wneir o fewn y rhwydwaith yn agor cyfleoedd ar gyfer unigolion i gael datblygu eu sioeau nhw eu hunain.

CAN a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Yn 2016 daeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru at Rwydwaith Artistiaid Sir Gâr ar iddynt ddechrau cydweithio'n greadigol â chywaith mawr cyffrous Tîm yr Atgyweiriad Rhaglywiaethol i atgyweirio tirwedd a pharc dŵr y deunawfed ganrif a grewyd ar gyfer Syr William Paxton.

Fe wahoddwyd 17 aelod o CAN o amryw ddisgyblaethau i greu gwaith yn adlewyrchu agweddau ar ddatblygiad hanesyddol a modern fel eu gilydd y dirwedd Raglywiaethol ar gyfer arddangosfa led yr ardd Gorffennaf i Fedi 2018.

Swyddogion
Siân Swann - Cysylltwreg CAN; Viv Albiston - Cysylltwreg Arddangosfeydd; David Brown - Trysorydd

Derbyniodd Rhwydwaith Artistiaid Sir Gâr grant marchnata gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2013 a gyfrannodd at greu y catalog ar-linell yma.